Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig | Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee

Ymchwiliad Bioamrywiaeth | Biodiversity Inquiry

Ymateb gan : Parciau Cenedlaethol Cymru

Evidence from : National Parks Wales

 

1.    Mae Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri yn cwmpasu 20% o dir Cymru. Mae’r pum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cwmpasu 5% arall o dir Cymru.

 

2.      Mae’r tri awdurdod parc cenedlaethol, sy'n gweithio mewn partneriaeth fel Parciau Cenedlaethol Cymru (PCC), yn croesawu'r cyfle i gyfrannu at ymchwiliad y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar adfer bioamrywiaeth yng nghyd-destun y Cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig.

 

3.      Mae trosolwg y Pwyllgor o’r ymchwiliad yn nodi cyd-destun y dirywiad mewn bioamrywiaeth. Nodwn bod yr Adroddiad ar Gyflwr yr Adnoddau Naturiol 2016 yn clustnodi bod yr achosion sydd wrth wraidd y dirywiad mewn bioamrywiaeth yn rhan annatod o’r systemau cymdeithasol ac economaidd, ac yn awgrymu y dylai partneriaid ystyried atebion integredig sy’n seiliedig ar leoedd ac sy'n cyfrannu i’r eithaf at nodau llesiant Cymru.

 

4.      Mae strwythur cymorth ôl-Brexit Llywodraeth Cymru yn gyfle unigryw i gyfrannu at yr atebion hyn, drwy roi’r cymhellion cywir ac offer i reolwyr tir er mwyn adfer tirwedd sy'n gyfoethog o ran natur, ac i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn byw mewn gwlad sy’n fwy cyfoethog mewn bywyd gwyllt nag ydyw heddiw.  

 

5.      Mae’r mwyafrif o sylwadau'r PCC yn deillio o brofiadau'r awdurdodau wrth redeg rhaglenni rheoli tir cadwraeth sy'n ategu cynlluniau amaeth-amgylcheddol. Fel sylw cyffredinol, mae PCC o’r farn ei bod yn hanfodol bod Cymru yn cadw sector cryf o reolaeth tir sy'n gallu cyflawni’r gwaith sydd ei angen i ddarparu bwyd a nwyddau cyhoeddus ac all helpu i fynd i'r afael â'r heriau a achosir gan newid yn yr hinsawdd. Felly, mae PCC yn llwyr gefnogi’r egwyddor o gael cynllun Nwyddau Cyhoeddus.

 

C1: Sut allai cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig Llywodraeth Cymru, a nodir yn Brexit a'n Tir, gael ei ddefnyddio i adfer bioamrywiaeth?

 

Uchelgais

  1. Bydd adfer natur yng Nghymru yn gofyn am newid sylweddol yn y raddfa uchelgais ar gyfer newid rheolaeth tir. Os yw am atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, rhaid i'r cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig ehangu’n sylweddol y cyfranogiad a wneir mewn adferiad ecolegol ar hyd a lled Cymru.

 

  1. Mae'r ymadrodd a fathwyd yn Adolygiad Lawton (Making Space for Nature, adroddiad i Defra 2010) yn berthnasol: rhaid i'r cynllun Nwyddau Cyhoeddus greu mwy o gynefinoedd, cynefinoedd mwy o faint, cynefinoedd gwell a chynefinoedd cydgysylltiedig i glustogi a chynyddu maint y safleoedd cadwraeth sydd gennym ar hyn o bryd a chaniatáu tirwedd mwy hydraidd i fywyd gwyllt esblygu.
  2. Mae PCC o’r farn bod rhaid ystyried adfer bioamrywiaeth law yn llaw â’r canlynol:

·         nwyddau cyhoeddus eraill (gan gynnwys tirwedd, llonyddwch ac awyr dywyll y nos, ansawdd yr aer, priddoedd, adnoddau ac ansawdd dŵr, a gwerthoedd treftadaeth a diwylliannol sy'n gysylltiedig â bioamrywiaeth a'r dirwedd)

·         agweddau ar lesiant (e.e. cadernid cymunedau gwledig a materion sgiliau a gweithlu o ran cyflawni bioamrywiaeth) a

·         risgiau amgylcheddol ac economaidd ehangach (e.e. newid yn yr hinsawdd, rhywogaethau ymledol, plâu a chlefydau, Brexit).

 

  1. Mae PCC yn gweld bod perygl y gall gwahaniaethau mewn cyllido a / neu yn nifer y cyfranogwyr sy’n cymryd rhan, rhwng y cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig a’r Cynllun Cadernid Economaidd, arwain at y ffaith nad yw'r cynllun Nwyddau Cyhoeddus yn gallu cyflawni'r newid sylweddol mewn adfer bioamrywiaeth sydd ei angen. Rhaid rhoi’r adnoddau priodol i'r cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig.

 

  1. Mae PCC yn deall egwyddor y cynllun Cadernid Economaidd.  Fodd bynnag, barnwn ei bod yn bwysig dysgu o raglenni blaenorol o gymhelliant cynhyrchu, a sicrhau bod ffactorau amgylcheddol, llesiant a chymdeithasol yn cael eu hymgorffori yn y gwaith o ddylunio'r cynllun. Bydd yn dyngedfennol bwysig i osod y llawr ar y lefel gywir i lwyddo i gyflawni’r gwelliannau amgylcheddol eang a ddymunir. Gellid cymhwyso hyn i'r cynllun Cadernid Economaidd er mwyn iddo fod yn bositif neu'n niwtral i'r cynllun Nwyddau Cyhoeddus ac er mwyn bod yn sbardun tuag at y cynllun Nwyddau Cyhoeddus.

 

Hirdymor

11.Bydd angen i'r cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig roi sicrwydd a hyder o gymorth hirdymor i reolwyr tir os yw adfer bioamrywiaeth i fod yn rhan o opsiwn busnes hirdymor hyfyw. Felly, dylai'r cynllun fod yn un hirdymor - yn amodol ar adolygiad o’r gallu i ymaddasu, ac yn gynllun all ymateb i newid amgylcheddol ac economaidd, ac all ragweld y newid hwnnw - ond yn gynllun sydd, i bob pwrpas, yn ddiderfyn.  

 

Yn gystadleuol â defnydd arall o dir

  1. Rhaid i'r cynllun fod ar gael ac yn ddeniadol i bob rheolwr tir yng Nghymru. Awgrymir y dylai'r cynllun gynnwys tir sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu bwyd dwys, tir a reolir yn benodol ar gyfer bioamrywiaeth, a phopeth rhwng y ddau. (Yn dibynnu ar yr opsiynau a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar sut i ganiatáu mynediad i denantiaid a phorwyr tir comin, efallai y bydd gofyn adolygu’r cyfreithiau tenantiaeth amaethyddol a’r cyfreithiau tir comin.)

 

  1. Rhaid i’r taliadau ar gyfer bioamrywiaeth a nwyddau cyhoeddus eraill fod yn gystadleuol â defnydd arall a wneir o dir, ac yn gallu amlygu manteision cymharol gwahanol fathau o dir fferm a systemau. Fel egwyddor gyffredinol, dylai mwy o fioamrywiaeth gyfateb i fwy o incwm. Mae hyn yn awgrymu newid o fformiwla sy’n rhoi’r flaenoriaeth i elw i fformiwla sy’n seiliedig ar y nwyddau a’r gwasanaethau a ddarperir – sef dull sy'n seiliedig ar gymell canlyniadau ac sy’n gystadleuol yn y farchnad.

 

  1. Efallai y bydd y Pwyllgor am ystyried a ddylai'r cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig wobrwyo achosion hanesyddol a chyfredol o reoli tir cadwraeth am y canlyniadau a gyflawnwyd eisoes, ac os felly, sut y gellid gwneud hynny. (Efallai y bydd potensial ar gyfer 'taliad sylfaenol' gwahaniaethol sy’n seiliedig ar werthoedd nwyddau cyhoeddus presennol, er enghraifft).

 

  1. Rhaid i reolwyr tir allu deall ac ymddiried yn y ffrwd newydd o incwm sylweddol o dan y cynllun Nwyddau Cyhoeddus wrth iddynt baratoi eu busnesau ar gyfer newid.  Gall llawer o’r cyfathrebu ar faterion bioamrywiaeth fel budd i’r cyhoedd ddigwydd yn fwyaf effeithiol ar lefel leol, ochr yn ochr â thrafod syniadau ar gyfer adfer bioamrywiaeth a nwyddau cyhoeddus eraill.

 

Cydweithredu a chynlluniau sy’n seiliedig ar ganlyniadau

  1. Mae tystiolaeth i awgrymu bod cynlluniau sy’n seiliedig ar ganlyniadau yn cynnig nifer o fanteision dros gynlluniau traddodiadol sy'n seiliedig ar ragnodi.  Hoffem dynnu sylw'r Pwyllgor at y cynlluniau canlynol (er bod nifer fawr o enghreifftiau o'r DU, Ewrop a thu hwnt):

·         Rhaglen Ffermio ar gyfer Cadwraeth Burren http://burrenprogramme.com/impact/outputs/

·         Prosiect Dyfodol FfermioDartmoor (enghraifft ar dir comin)

https://ecosystemsknowledge.net/sites/default/files/wp-content/uploads/2014/6/Dartmoor-Farming-Futures-Independent-Project-Evaluation.pdf

·         Astudiaeth beilot ar y Cynllun Taliadau Amaeth-Amgylcheddol sy’n seiliedig ar Ganlyniadau yn Lloegr

https://www.gov.uk/government/publications/results-based-agri-environment-payment-scheme-rbaps-pilot-study-in-england

 

17.Gall cynlluniau sy'n seiliedig ar ganlyniadau gynnig mwy o ryddid a hyblygrwydd i reolwyr tir benderfynu sut i reoli eu tir, gan agor drysau i reolwyr cynllun i gefnogi cyflwyno rheolwyr tir drwy hyfforddiant, mentora a chydweithio, gan feithrin lefelau uwch o ddeialog a dealltwriaeth a pherchnogaeth o amcanion y cynllun.

 

18.Mae’r Cynllun Burren (er enghraifft) wedi defnyddio dull hybrid sy'n cyfuno taliad cyfradd sefydlog ochr yn ochr â phremiwm sy'n seiliedig ar ganlyniadau all helpu i liniaru ansicrwydd a risgiau tybiedig i dirfeddianwyr sy'n cymryd rhan mewn cynlluniau sy'n seiliedig ar allbwn.

 

19.Gall cynlluniau sy'n seiliedig ar ganlyniadau hefyd feithrin cydweithredu â chydweithwyr ac mewn mentrau yn ôl graddfa’r dirwedd - felly nid oes angen i ffermydd bach ond uchel eu gwerth natur na’r rhai sydd newydd ymuno â’r cynllun fod o dan anfantais os ydynt wedi'u lleoli mewn lleoliad isel ei werth natur.

 

20.Gall cydweithio gynnig mwy o dryloywder a gwell gwerth am arian. Os llwyddir i gyflawni lefelau uwch o allbwn amgylcheddol drwy gydweithio, gellir gwobrwyo hyn drwy daliadau uwch.

 

21.Mae cytundebau sy’n seiliedig ar ganlyniadau yn cyfuno i ffurfio mesuriadau ystyrlon o fonitro cynllun mewn modd na all monitro cydymffurfiaeth mewn cynlluniau sy’n seiliedig ar ragnodi. (Rydym yn gwneud sylwadau pellach ar hyn yng nghwestiwn 3.)

 

22.Mae’n debygol y bydd angen i'r cynllun (yn lleol ac yn ei gyfanrwydd) amlygu rhai canlyniadau na ellir penderfynu yn eu cylch, a gellid disgwyl i’r cynllun, neu hyd yn oed, ei ddylunio i greu tirweddau newydd naturiol, deinamig.  Mae i hyn oblygiadau o ran penderfynu ar ganlyniadau cyffredinol y cynllun, a gallai fod angen i gytundebau unigol amlygu cyfeiriad a chyfradd y newid sy’n ddymunol – pwyntiau ar hyd y ffordd mewn rheoli ymaddasu yn hytrach na rhyw nod penodol dros amser hir.

 

Wedi'i gyflawni’n lleol

  1. Bydd diffinio nwyddau cyhoeddus ar y lefel mwyaf lleol posibl yn galluogi pawb i ddeall y ffordd orau i'w cyflawni.  Er mwyn meithrin y berthynas hirdymor sydd ei hangen i gyflawni maint y canlyniadau sydd eu hangen, credwn bod angen cymryd cam eithaf sylweddol oddi wrth yr ymagwedd 'hunan-wasanaeth' a 'rheolwr contract' cyfredol tuag at roi cyfle i reolwyr tir feithrin cysylltiadau hirdymor cynaliadwy gydag ymgynghorwyr medrus sydd wedi'u trwytho â gwybodaeth leol.

 

  1. Gyda digon o adnoddau, byddai'r ymgynghorwyr medrus hyn hefyd yn gyfrwng i gael mynediad i rwydwaith ehangach o gymorth arbenigol (e.e. mynediad at gronfa o arbenigwyr a chyfarwyddyd ar flaenoriaethau gan Bartneriaethau Natur Lleol). Credwn y byddai'r dull hwn yn helpu'r cynllun i ddatblygu modd o gydgysylltu’r ffynonellau lleol o gyflenwi, gan hyrwyddo meddwl a chydweithredu arloesol a chreadigol, sy’n manteisio ar syniadau a ddatblygodd o'r 'gwaelod i fyny' ac sy’n lliniaru'r pwysau ar y cynllun i ddod o hyd i'r holl atebion.

 

  1. Byddai PCC yn croesawu trafodaeth gynnar gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyflawni’r cynllun yn y Parciau Cenedlaethol.  Mae gan yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol gryn brofiad o weithio'n uniongyrchol gyda'r sector rheoli tir, rhedeg cynlluniau rheoli tir (megis Tir Eryri, Rhwydwaith Pori Sir Benfro a Gwarchod y Parc (Arfordir Penfro), Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon), rheoli tir comin cofrestredig (e.e. Meithrin Mynydd) a gweithio gyda chymdeithasau (porwyr) tir comin.  Efallai y bydd lle i'r awdurdodau helpu i ddatblygu prosiectau peilot ac arddangos.

 

  1. Mae PCC o'r farn bod tirweddau dynodedig Cymru yn nwyddau cyhoeddus ynddynt eu hunain fel tirweddau ac fel cyrchfannau sy'n cael effaith gadarnhaol ar yr economi lleol a rhanbarthol.  Mae cynlluniau i reoli tirweddau dynodedig yn gyfrwng delfrydol o gefnogi dulliau rhanbarthol a lleol o gyflawni’r cynllun, gan annog mentergarwch a hyrwyddo nodweddion rhanbarthol unigryw, cynhyrchu bwyd, rheoli tir, adfer natur, gwella hawliau tramwy, rheoli treftadaeth, diwylliant, iechyd, a rheoli ymwelwyr ar 25% o dir Cymru, gan ddatblygu modelau newydd ar raddfa briodol mewn tirweddau cyfoethog.  Mae uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer tirweddau dynodedig Cymru fel y'u nodir yn "Gwerthfawr a Chydnerth" yn clustnodi cyfleoedd i ddatblygu’r cyfryw ddulliau o gyflawni nwyddau cyhoeddus.

 

C2: Sut ellid cymhwyso gwahanol bolisïau a deddfwriaeth presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer bioamrywiaeth wrth ddylunio a gweithredu'r cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig?

 

  1. Byddai'r cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig yn fenter bwysig a rhesymegol wrth geisio gwireddu nodau llesiant Cymru a rheoli’r adnoddau naturiol yn gynaliadwy.  Yn rhanbarthol, gallai'r cynllun ategu a helpu i gyflwyno datganiadau ardal (er enghraifft), cynlluniau adfer natur lleol, cynlluniau llesiant a chynlluniau rheoli tirwedd gwarchodedig. 

 

  1. Rhagwelwn y byddai angen i'r cynllun weithredu o fewn maes rheoleiddio sy'n cynnwys 'gofod atebion’ cynaliadwy. Byddai taliadau'r Cynllun a grymoedd eraill y farchnad yn pennu’r cydbwysedd o fewn y gofod hwnnw.

 

  1. Mae mesurau digonol o orfodi’r rheoliadau presennol (e.e. Rheoliadau EIA (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017, Rheoliadau Llosgi Grug a Glaswellt ac ati (Cymru) 2008) felly yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cosbau yn rhwystr i dorri rheolau ac nid dim ond costau achlysurol i’r busnes.

 

  1. Awgrymir efallai y bydd angen ystyried sut y gall lefel uwch o reoleiddio a / neu mwy o adnoddau i orfodi’r rheoleiddio, wneud mwy o gyfraniad at gyflawni bioamrywiaeth, fel bod gofyn i'r cyllid sydd ar gael o dan y cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig weithio'n llai caled.

 

  1. Un man cychwyn fyddai clustnodi a allai codi statws presennol y Cod Ymarfer Amaethyddol Da gwirfoddol i statws rheoleiddiol fod yn briodol. Mae'r cod yn cwmpasu meysydd lle na fyddai gan reoliad newydd fawr ddim effaith, neu ddim effaith o gwbl, ar fusnes fferm, a gallai arwain at arbedion costau (lleihau gorbenion, gwella ansawdd y pridd, a lleihau risg llygredd er enghraifft), gan olygu budd sylweddol yn gyffredinol i fioamrywiaeth. Mae rheoli ffiniau caeau yn un o’r cyfryw feysydd.

 

  1. Mae angen cydnabod a lliniaru peryglon tanau gwyllt (gan gynnwys unrhyw risgiau ychwanegol allai fod yn rhan annatod o’r cynllun).

 

  1. Mae llawer o dirweddau mwyaf gwerthfawr ac eiconig Cymru dan fygythiad oherwydd diffyg pori, sy'n ffordd allweddol o gynnal y mwyafrif o gynefinoedd lled-naturiol sy'n weddill yng Nghymru. Mae cynlluniau pori lleol yn hanfodol i ailsefydlu a chynnal tir pori cynaliadwy. Mae PCC o blaid parhau i roi cymorth i gorff pori Cymru gyfan i hwyluso a chynorthwyo i greu cynlluniau pori lleol ar hyd a lled Cymru.

 

C3: Pa wersi y gellir eu dysgu o’r Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir i sicrhau bod cynlluniau yn cael eu monitro a’u gwerthuso yn effeithiol i gynorthwyo adfer bioamrywiaeth. Sut ddylai'r Rhaglen newydd Monitro a Modelu yr Amgylchedd a Materion Gwledig gael ei dylunio a'i gweithredu yn effeithiol at y diben hwn?

 

  1. Fel yr awgrymir uchod, gellir cyfuno monitro cytundebau sy'n seiliedig ar ganlyniadau i ffurfio mesuriadau eang ac ystyrlon o fonitro lefel y cynllun sy'n cyd-fynd ar lefel is, ac sy’n profi rhagdybiaethau o fonitro ar lefel uwch. Fel mantais ychwanegol, gellir dadgyfuno’r data i lefel leol.

 

  1. Hefyd awgrymwyd gennym y bydd angen i gytundebau unigol a'r cynllun yn ei gyfanrwydd gynnwys, neu yn wir, anelu at greu tirweddau o’r newydd sy’n gweithredu’n ymarferol ac sy’n naturiol ddeinamig. Er hynny, gellir asesu effeithiolrwydd y cynllun o ran mynd i'r afael â ffactorau sy'n effeithio ar gyflwr natur yng Nghymru, gyda dadansoddiad yn cael ei ddefnyddio i wahanu effaith newidynnau eraill.

 

  1. Os yw priodoleddau cyflwr amgylcheddol yn y gorffennol (llinell sylfaen) i gael eu defnyddio fel dangosyddion cyflwr dymunol yn y dyfodol, ar ba raddfa bynnag, yna rhaid bod rhesymeg glir dros ddewis y llinell sylfaen honno. Mae llinell sylfaen 1990 yn awgrymu gwahanol ganlyniadau i linell sylfaen 1970au er enghraifft. Gallai gosod llinell sylfaen realistig ond heriol (h.y. cynharach) roi ffordd o gydnabod a gwobrwyo llwyddiannau hanesyddol ar ddaliadau uchel eu gwerth natur.

 

  1. Awgrymwyd gennym uchod y dylai'r cynllun ganiatáu mwy o hyblygrwydd wrth bennu canlyniadau rhanbarthol a lleol. Ar y lefel mwyaf gronynnog (rheolwyr tir ac ymgynghorwyr rheoli tir/swyddogion prosiect), gall monitro helpu i ysgogi gwybodaeth, cyfranogi ac arloesi mewn materion rheoli. Mae potensial i reolwyr tir ac aelodau'r gymuned gyfrannu at fonitro. Gyda llaw, gallai hyn helpu i greu adnodd olynol i swyddogion lleol.

 

  1. Hefyd bydd angen i fonitro fod yn ei le ar gyfer mesurau sylfaenol ac ar gyfer y llawr rheoleiddio. O ystyried y pwyslais ar nwyddau cyhoeddus, mae angen mwy na hunan ardystio, megis rôl corff gwarchod i amddiffyn buddiannau’r cyhoedd a buddsoddiad trethdalwyr.

 

 

Diolch am y cyfle i gyfrannu at yr ymchwiliad hwn.